Dwy Gymraes, Dwy Gymru
Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders
Please select
Bemærk venligst, at den normale 14 dages fortrydelsesret ophører ved modtagelse af adgang til e-bogen.

Produkt beskrivelse

Cyflwyniad o fywyd a gwaith dwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn. Mae’n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes gan nad oes ymchwil manwl wedi ei wneud cyn hyn ar Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders, dwy a bontiodd y bwlch rhwng yr awduresau petrusgar a ddenwyd allan o’u hogofâu gan Granogwen, golygydd y Frythones (1879–89), a’r rhai a ddaeth ar eu hôl yn yr ugeinfed ganrif. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at yr amryw gyfrolau ac erthyglau sydd wedi ymddangos ers yr 1980au ar gyfraniad hollbwysig y Gymraes at ddiwylliant ei chenedl. Mae’n lyfr delfrydol i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth y Gymraes yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dorri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes a chyfoethogi ein dealltwriaeth o awduron benywaidd anghofiedig y Gymru Gymraeg.

Detaljer